18. Cyn hyn, nhw oedd y gwylwyr yng ngwersylloedd y Lefiaid i'r dwyrain o Giât y Brenin.
19. Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.
20. Phineas fab Eleasar, oedd yn arolygu'r gwaith ers talwm, ac roedd yr ARGLWYDD wedi bod gydag e.
21. A Sechareia fab Meshelemeia oedd yn gwarchod y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
22. Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi eu rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi eu penodi i'w swyddi.
23. Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).
24. Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.
25. Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod.
26. Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr.
27. Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore.
28. Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw.
29. Roedd eraill yn gofalu am ddodrefn ac offer y lle sanctaidd. Nhw oedd â gofal am y blawd mân, y gwin, yr olew olewydd, y thus a'r perlysiau hefyd.