1. Dyma wahanol grwpiau gofalwyr y giatiau:Disgynyddion Cora: Meshelemeia, mab Core (oedd yn un o feibion Asaff)
2. Meibion Meshelemeia: Sechareia, yr hynaf, wedyn Iediael, Sebadeia, Iathniel,
3. Elam, Iehochanan, ac Eliehoenai.
4. Yna meibion Obed-Edom: Shemaia, yr hynaf, wedyn Iehosafad, Ioach, Sachar, Nethanel,
5. Ammiel, Issachar, a Pewlthai. (Roedd Duw wedi bendithio Obed-Edom yn fawr.)
6. Roedd gan ei fab Shemaia feibion hefyd. Roedden nhw'n benaethiaid eu teuluoedd, ac yn cael eu parchu'n fawr.
7. Meibion Shemaia oedd: Othni, Reffael, Obed, ac Elsabad. Roedd ei berthnasau, Elihw a Semacheia, yn cael eu parchu'n fawr hefyd.
8. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom.
9. Roedd gan Meshelemeia feibion a perthnasau uchel eu parch – un deg wyth i gyd.
10. Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf – ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo).
11. Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri.
12. Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml.
13. Dyma'r coelbren yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedden nhw'n gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried.
14. A dyma sut y cawson nhw eu dewis:Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia;giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth);