9. Eser oedd y pennaeth, wedyn, mewn trefn, Obadeia, Eliab,
10. Mishmanna, Jeremeia,
11. Attai, Eliel,
12. Iochanan, Elsabad
13. Jeremeia, a Machbanai.
14. Nhw oedd y capteniaid o lwyth Gad. Roedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonyn nhw a dros fil o dan y mwyaf.
15. Dyma'r rhai oedd wedi croesi'r Iorddonen yn ystod y mis cyntaf, pan oedd hi wedi gorlifo ei glannau i gyd. Roedden nhw wedi gwneud i bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ffoi o'u blaenau.
16. Dyma rai o lwyth Benjamin a llwyth Jwda hefyd, yn dod i'r gaer at Dafydd.
17. Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.”